Mae’r adroddiad yn dangos blwyddyn brysur unwaith eto yn hanes y côr a hynny, mae’n bosib, oherwydd llwyddiant ein gwefan newydd www.denbighchoir.com a gafodd ei lansio mis Ebrill y llynedd.
O ganlyniad yr ydym, ar gyfartaledd, yn cael 1800 ‘hits’ y mis heb sôn am y cysylltiadau dyddiol a’r ‘Facebook’ a ‘Twitter.’ Mae hefyd wedi ein galluogi i werthu ein cryno ddisgiau trwy iTunes ac Amazon.
Mae ein cylchlythyr digidol wedi profi yn boblogaidd iawn ac i’w dderbyn, yn rhad ac am ddim, mae rhaid tanysgrifio ar ein gwefan, sef www.denbighchoir.com
Adroddiad y Flwyddyn
Yr ydym yn cael llawer o geisiadau i fod yn rhan o wasanaethau priodas ac ym mis Ebrill, yr ydym wedi derbyn gwahoddiad i briodas yn Lincoln yn ogystal a chynnal cyngerdd ar yr un diwrnod.
Uchafbwyntiau ychwanegol y flwyddyn o’n blaen fydd rhannu llwyfan gyda Chôr Meibion Llangwm yn Yr Amwythig ym mis Chwefror.
Ym mis Mehefin mae Côr Meibion Heddlu Avon a Somerset yn ymweld â Gogledd Cymru ac yr ydym wedi trefnu cyngerdd ar y cyd yn Eglwys Sant Ioan, Llandudno.
Mae ymddangos yn rheolaidd yn Eglwys Sant Ioan, Llandudno yn sicr yn help i ehangu ein gorwelion.
Cawsom gais yn ddiweddar i ganu mewn cyngerdd ym mis Hydref yn Leek, Swydd Stafford, gyda Chôr Meibion Wetley Rocks.
Adroddiad Cyngherddau Elusennol
Fel côr rydym yn ystyried cymryd rhan mewn cyngherddau elusennol yn bwysig iawn. Ym mis Hydref y llynedd fe aethom i gynnal cyngerdd yn Nolfor, ger Y Drenewydd. Cawsom groeso arbennig gan y pentref ac fe lwyddwyd i godi dros £800 tuag at Ambiwlans Awyr Cymru.
Aelodau Newydd
Fe gawsom ddau aelod newydd yn ddiweddar, y ddau a phrofiad hir o ganu gyda chorau meibion eraill. Ond nid yw hyn yn ofynnol i ymaelodi.
Os ydych yn mwynhau cerddoriaeth mae croeso i chwi alw i mewn i’n gweld ar nos Fawrth yn Eirianfa. Am fwy o wybodaeth i ymaelodi cysylltwch â Dafydd Lloyd Jones ar 812944, neu ebost hello@denbighchoir.com
Dyma’r Adroddiad cyntaf i ymddangos yn y Gymraeg ar y wefan (Goh.)
Leave a Reply